#                                                                                      

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-802

Teitl y ddeiseb: Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn mabwysiadu safon BS4163:2014 yn llawn fel gofyniad yn hytrach nag argymhelliad, er mwyn amddiffyn iechyd a diogelwch disgyblion, athrawon a thechnegwyr.

Yn dilyn cyfarfodydd rhwydweithio ar gyfer athrawon Dylunio a Thechnoleg gan Ein Rhanbarth ar Waith, daeth yn amlwg bod y pwysau ariannol ar ysgolion yn arwain at sefyllfa lle y mae gofyn i athrawon Dylunio a Thechnoleg fwyfwy i addysgu dosbarthiadau mwy na’r 20 disgybl yr argymhellir yn BS4163:2014 "Iechyd a diogelwch ar gyfer dylunio a thechnoleg mewn sefydliadau addysgol - Cod Ymarfer". Mae dosbarthiadau mwy o faint yn anochel yn arwain at risg uwch o ran disgyblion yn cael eu hanafu mewn amgylcheddau gweithdy.

Mae Cod Ymarfer BS4163:2014 yn nodi’n glir fel a ganlyn:

9 Rheoli’r amgylchedd addysgu

9.1

Cyffredinol

Dylid ystyried yn ofalus nifer y dysgwyr mewn unrhyw un ardal weithio, i sicrhau y ceir gweithio diogel a goruchwyliaeth effeithiol.

Yng Nghymru a Lloegr, dylai dim mwy nag 20 o ddysgwyr fod gydag un athro cymwys, sydd wedi cymhwyso, mewn unrhyw un ardal weithio.

Yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, dylai dim mwy nag 20 disgybl fod ar gyfer pob dosbarth mewn pynciau ymarferol. "

1.       Barn Llywodraeth Cymru

1.1        Y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE)

Cwmni preifat wedi'i ymgorffori gan Siarter Frenhinolyw’r Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI). Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod y Sefydliad Safonau Prydeinig (BSI) fel Corff Safonau Cenedlaethol y DU (NSB)'. Mae'n gweithredu fel cynrychiolydd y DU ar gyrff safonau rhyngwladol, fel y Sefydliad Rhyngwladol ar gyfer Safoni (ISO). Mae'n cael arian gan Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau Llywodraeth y DU ar gyfer y gwaith rhyngwladol hwn.

Mae 15 y cant o refeniw’r BSI, sy'n cynnwys £59.4 miliwn yn 2016, yn deillio o 'ddatblygu a chyhoeddi safonau'. Mae’r BSI yn nodi:

More than 95% of the standards we published were the British implementation of European or International standards

Fel rhan o'r elfen honno o'i waith, nid yw BS4163: 2014 "Iechyd a Diogelwch ar gyfer Dylunio a Thechnoleg mewn Sefydliadau Addysgol – Cod Ymarfer  ar gael i’r cyhoedd yn rhad ac am ddim, ond mae ar gael i'w brynu ar-lein.

Mae llythyr Llywodraeth Cymru at y Pwyllgor yn tynnu sylw at ei barn ar y cod ymarfer, sef

BSI Standards represent the condensed knowledge of a group of people who have experience or expertise regarding a given subject; they are often written voluntarily. The one cited... is a code of practice which offers advice and guidance.

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi bod y cyfrifoldebau am iechyd a diogelwch mewn ysgolion yn cael eu hamlinellu gan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a'r Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999cysylltiedig. Nid yw'r cyfrifoldeb am iechyd a diogelwch wedi’i ddatganoli, a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) syn gorfodi'r rheoliadau cysylltiedig. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod yn disgwyl i ysgolion ddilyn 'canllawiau ar iechyd a diogelwch a gyhoeddir gan yr HSE'.

Mae'r HSE yn darparu canllawiau ar-lein ar 'reoli iechyd a diogelwch yn synhwyrol mewn ysgolion'. Mae’r HSE yn darparu rhestr wirio iechyd a diogelwch ar gyfer ystafelloedd dosbarth  yn ogystal ag adnoddau eraill. Y Pennaeth sy’n gyfrifol am sicrhau bod canllawiau’r HSE yn cael eu dilyn yn y dosbarthiadau, tra bod gan y corff llywodraethol rôl allweddol o ran sicrhau bod risgiau'n cael eu rheoli'n effeithiol ar y safle.

1.2        Canllawiau Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi ei bod wedi cyhoeddi canllawiau ar fesur capasiti ysgolion, a ddiweddarwyd ddiwethaf yn 2011. Bwriedir i’r canllawiau hyn 'fod yn ffordd gadarn a chyson o asesu capasiti ysgolion'. Fodd bynnag, nid yw'n rhagnodi nifer y disgyblion (neu staff) a allai ddefnyddio lle ar gyfer addysgu neu astudio, ond mae’n rhoi asesiad cyffredinol o'r gofod addysgu sydd ar gael.

2.       Ymgyrch y Gymdeithas Ddylunio a Thechnoleg

Dyma yw’r Gymdeithas Ddylunio a Thechnoleg (Data)

a membership organisation providing advice, support and training for those involved in teaching Design, Engineering and technology. We work closely with government, awarding bodies, Ofsted and other regulators, advising on the curriculum and lobbying on behalf of the subject.

Ar 7 Hydref 2015 lansiodd Data, gyda chymorth Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau, ei ymgyrch Designed and Made in Britain ...?  Mae'n crynhoi’r prif faterionsy'n wynebu cyrsiau dylunio a thechnoleg fel

There is a shortage of qualified teachers; government accountability measures prioritise other subjects; teachers cannot Access CPD; and GCSE numbers are declining.

Yn gyffredinol, mae ymgyrch Data yn canolbwyntio ar Lywodraeth y DU, gan alw am newidiadau yng nghwricwlwm cenedlaethol Lloegr a mesurau atebolrwydd. Mae'n galw ar unigolion i ysgrifennu at eu Haelod Seneddol lleol i’w lobïo ar y materion a godwyd gan yr ymgyrch, ac i lofnodi ei ddeiseb.

3.       Addysgu Dylunio a Thechnoleg yng Nghymru

I grynhoi, mae nifer yr athrawon a hyfforddwyd ac sy’n addysgu dylunio a thechnoleg, a phynciau cysylltiedig, yn ysgolion Cymru wedi aros yn sefydlog dros y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, bu gostyngiad yn nifer yr ymgeisiadau TGAU ar gyfer y pynciau hynny yn y cyfnod cyfatebol.

At hynny, er nad yw data StatsCymru [Llywodraeth Cymru] yn darparu dadansoddiad canrannol o bynciau, mae'n werth nodi bod 258,869 o ymgeisiadau TGAU yn 2013/14 a 273,805 o ymgeisiadau yn 2016/17. Mae ymgeisiadau ar gyfer cyrsiau crefft, dylunio a thechnoleg wedi gostwng mewn termau absoliwt a chymharol yn ystod y pum mlynedd diwethaf (gweler adran 3.2).

3.1        Nifer yr athrawon dylunio a thechnoleg

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) yn cynhyrchu ystadegau blynyddol ar y gweithlu addysgu yng Nghymru. Cyhoeddwyd ei ddiweddariad diweddaraf ym mis Mawrth 2017. Gan ddefnyddio'r crynhoad ystadegol hwn, cafodd y tablau canlynol eu cynhyrchu. Mae'n tynnu sylw at nifer yr athrawon yn ôl pwnc HAGA [Hyfforddiant ac Addysg Gychwynnol Athrawon]'.

 

Mae'r crynhoad ystadegol hefyd yn tynnu sylw at nifer yr athrawon uwchradd sydd wedi'u cofrestru gyda CGA yn ôl y pwnc a addysgir. Mae'r data hwn yn dangos y canlynol

Yn Nhablau 1 a 2, mae'r canran nesaf at gyfanswm yr athrawon yn tynnu sylw at ganran y gweithlu addysgu cyffredinol y mae'r ffigur hwnnw'n ei gynrychioli.

3.2        Nifer yr ymgeisiadau ar gyfer TGAU dylunio a thechnoleg

Mae StatsCymru yn darparu data ar Ymgeisiadau a Chanlyniadau TGAU (disgyblion ym Mlwyddyn 11/disgyblion 15 oed) fesul grŵp pwnc. Gan ddefnyddio'r data hwnnw, lluniwyd y tabl canlynol.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.